Hafan

Côr Godre’r Garth

Arweinydd: Steffan Watkins

Cyfeilydd: Branwen Evans

Ymunwch â ni!
Ymarferion bob nos Sul am 7:30 p.m.
Neuadd y Pentref,
Efail Isaf

weplyfr facebook    trydar twitter

Noson Lansio Grogg Robin McBryde
yng Nghlwb Rygbi Cilfynydd 8 Mawrth 2024

Cyngerdd Nadolig yn y Tabernacl, Efail Isaf. 17 Rhagfyr 2023

Ffair Nadolig 2023 Neuadd y Pentref, Efail ISaf

Eisteddfod y Rhondda Tachwedd 2023

 

Cyngerdd yn Ysgol y Cymer Hydref 2023

Côr Rhuthun, Côr Godre’r Garth, Côr Plant y Rhondda a’r unawdydd Owain Rowlands Yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Hydref 2023

Dechrau Canu Canmol o Tabernacl Efail Isaf. Hydref 2023

Cyngerdd Llanbradach 17 Mehefin 2023

Gŵyl Pan-Geltaidd Carlow Ebrill 2023

Cyngerdd yn Eglwys Groesfaen, Dydd Gŵyl Dewi 2023

Cyngerdd Nadolig yn y Tabernacl, Efail Isaf, 18 Rhagfyr 2022


Ffair Nadolig Efail Isaf Tachwedd 2022

 

Cyngerdd Gosport 2 Hydref 2022

 

Cyngerdd ym Mhenarth 29 Chwefror 2020

 

 

 Côr Godre’r Garth a Chôr y Cwm 15 Rhagfyr 2019

 

 

Sefydlwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 er mwyn denu pobl o’r un anian i ddod ynghyd er mwyn hybu’r iaith Gymraeg yn ardal Pontypridd. Erbyn hyn mae gan Gôr Godre’r Garth dros 50 o aelodau gydag ystod oedran o 16 i dros 70.

Ers bron i ddeugain mlynedd mae’r côr wedi blasu pob math o brofiadau a llwyddiannau ac wedi teithio i bedwar ban byd. Am wyth mlynedd ar hugain bu hynny dan arweiniad meistrolgar Wil Morus Jones, a lwyddodd i sefydlu côr a ddaeth i’r brig o’r cychwyn cyntaf. Wedi ymddeoliad Wil, trosglwyddwyd yr awenau dros dro i Gareth Williams, is-arweinydd dihafal y côr, cyn i Eilir Owen Griffiths, un o gerddorion cyfoes mwyaf heintus a deinamig Cymru ymuno fel arweinydd yn 2003 hyd 2014 pan drosglwyddodd yr awenau i gerddor dawnus ac addawol arall, Steffan Huw Watkins.

Yn gefn i’r holl Gôr mae’r cyfeilydd amryddawn, Branwen Evans ac nid oes pall ar ei thalent gerddorol ar y piano. Un o uchafbwyntiau’r calendr cystadlu yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac mae’r côr wedi bod yn fuddugol sawl gwaith ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Cwpan Aur fel Côr yr Ŵyl. Yng Ngŵyl Gorawl Caerdydd 2019 enillodd Steffan Watkins wobr Arweinydd yr Ŵyl.

9 Mehefin Ymarfer Agored

 

Steffan Watkins - Arweinydd yr Ŵyl
Steffan Watkins yn ennill gwobr Arweinydd yr Ŵyl yng Ngŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019

 

Cystadlu yn yr Ŵyl Gorawl
Gŵyl Gorawl Rhyngwladol Caerdydd Ebrill 2019

Eglwys St Cross Winchester, 2 Tachwedd 2019

 


Cyngerdd tuag at Lesotho yn y Gadeirlan Babyddol, Caerdydd, Mawrth 2019

 

Cyngerdd 2019

 

 

 

Canu carolauCanu Carolau 8 Rhagfyr 2018

 

 

Parti Ponty 2018Parti Ponty 2018

 

 

Cyngerdd 16 Rhagfyr 2018

 

Efail Isaf 2017
Cyngerdd 3 Côr Efail Isaf 19 Mawrth 2017