Cyngerdd gyda Côr Godre’r Garth a Band Dinas Caerdydd Perfformiad Prydeinig cyntaf o waith cyffrous i fand pres, côr ac organ –“Coro Angelicus” Uchafbwynt y cyngerdd fydd y perfformaid Prydeinig cyntaf o’r gwaith cyffrous “Coro Angelicus”. Wedi ei gyfansoddi gan Eilir Owen Griffiths ar gyfer Côr Godre’r Garth, mae’r darn wedi ei osod ar gyfer band pres, côr, ac organ. Mae hi’n argoeli i fod yn noson fythgofiadwy, felly prynwch eich tocynnau yn gynnar.
Cyhoeddwyd CD newydd Côr Godre'r Garth
Ewch i recordiau Sain >>> Sain Rhaglen Nia Roberts Radio Cymru
CD newydd yn ddathliad o hoff atgofion arweinydd
Bydd Côr Godre’r Garth, côr cymysg o ardal Pontypridd, yn lansio CD newydd yn y gyngerdd Nadolig blynyddol yng Nghapel Tabernacl, Efail Isaf ar nos Sul, 18 Rhagfyr am 7.00 o’r gloch. Mae’r CD Coro Angelicus yn cynnwys detholiad o ffefrynnau’r côr a’r perfformiad cyntaf o waith bywiog a hudolus gan Eilir Owen Griffiths sy’n cwmpasu rhai o’i hoff atgofion gyda’r côr ers iddo gymryd yr awenau fel arweinydd yn 2003. Mae naw symudiad yn y gwaith Coro Angelicus (Côr o Angylion)sy’n cynnwys Ymdeithgan Angel, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Eilir i’w wraig ar ddiwrnod eu priodas, pan ganodd y côr yn y gwasanaeth. Mae Disgynnodd wedi ei gyfansoddi mewn arddull werinol, yn adlais o’r holl alawon gwerin a ganwyd ar hyd y blynyddoedd. Cyfansoddwyd prif thema Exaudi Nos - Clyw Ni un noson braf pan oedd y côr ar daith yn La Rochelle yn 2010. I orffen y gwaith ceir trefniant cynhyrfus o Sanctus, i gofio’r troeon y bu’r côr yn canu yn Stadiwm y Mileniwm cyn gêmau rygbi rhyngwladol Mae’r CD, sydd hefyd yn cynnwys y côr yn canu clasuron gan Brahms, Mendelssohn, Bruckner, Schubert a pherfformiad pwerus o Sadoc Ŵr Duw gan Handel, yn binacl ar flwyddyn lawn a chyffrous iawn. Ymysg yr uchafbwyntiau cafwyd y wefr o berfformio première o waith Eilir, Requiem, yng Ngerddi Aberglasne gyda Bryn Terfel ac Wynne Evans yn unawdwyr. Cafwyd llwyddiant hefyd dros Glawdd Offa wrth i’r côr ddod yn geffyl blaen yng Ngŵyl Gerddorol Cheltenham 2011 a chipio’r Gwpan Aur fel Côr yr Ŵyl
Mae hefyd wedi bod yn flwyddyn brysur i Eilir Owen Griffiths a benodwyd yn Gyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen fis Medi. Mae Eilir, sy’n gweithio fel Tiwtor a Threfnydd Diwylliannol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn un o arweinyddion corawl mwyaf deinamig Cymru ac wedi ennill nifer o wobrau fel cyfansoddwr a gyda Chôr Godre’r Garth, Côr CF1 a Chôr y Drindod Dewi Sant. Mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at lansio CD newydd Côr Godre’r Garth a pherfformio rhannau o’r gwaith Coro Angelicus yn y gyngerdd Nadolig ar 18 Rhagfyr. “Fel côr rydan ni wedi bod yn trafod rhyddhau CD newydd ers sbel rŵan ac fe benderfynon ni mai dyma’r flwyddyn i wireddu hynny, a dwi wrth fy modd hefo’r cynnyrch gorffenedig. Mae Côr Godre’r Garth yn gôr arbennig ac ymroddedig iawn â phawb yn dod ymlaen yn dda a dwi’n ei deimlo’n fraint enfawr fod yr aelodau wedi cytuno i berfformio’r gwaith Coro Angelicus gafodd ei ysbrydoli gan fy nghyfnod efo’r côr ers i mi ymuno fel arweinydd. “Er nad gwaith Nadoligaidd yw Coro Angelicus, ceir ynddo'r garol adnabyddus Noël, sy’n dod ag atgofion melys i mi o’r cyngherddau Nadolig blynyddol rydan ni yn eu cynnal yng Nghapel y Tabernacl yn Efail Isaf a bydd perfformio rhannau o’r gwaith yn y gyngerdd eleni yn brofiad gwefreiddiol. Dwi’n gobeithio fod rhywbeth at ddant cerddorol pawb ar y CD yma.” Ychwanegodd Meilyr Hedd, Cadeirydd Côr Godre’r Garth: “Mae Eilir wedi llwyddo i adeiladu ar gryfderau’r côr ac yn gyson yn ein herio i gyrraedd tir hyd yn oed yn uwch gyda’i syniadau newydd a’i ddarnau cyffrous. Mae’r côr wedi mwynhau’r profiad o ymarfer a recordio ar gyfer y CD ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at y gyngerdd pan fydd yn cael ei lansio. Felly dewch yn llu i fwynhau perfformiadau ecsgliwsif o Coro Angelicus ac i brynu copïau fel anrhegion Nadolig perffaith!” Recordiwyd Coro Angelicus ar label Sain a chyflwynir y CD er cof am aelod annwyl iawn o’r côr, Eric Davies. Pris y CD yw £12.98. Ewch i recordiau Sain >>> Sain Cyngerdd Nadolig 18 Rhagfyr 2011
Ennill Côr yr Ŵyl yn Cheltenham 2011
|