Côr Godre'r garth
Cor

 

 

CD Dwfn Liwiau
CD £12.95

 

Côr Godre'r Garth

Arweinydd: Stefan Watkins

Cyfeilydd: Branwen Evans

Ymunwch â ni!
Ymarferion bob nos Sul am 7:30 p.m.
Neuadd y Pentref,
Efail Isaf

Ffurfiwyd Côr Godre’r Garth yn 1974 gyda'r nod o hybu’r Gymraeg mewn ardal a oedd, yr adeg honno, wrthi’n brysur yn ailddarganfod ei Chymreictod. Roedd llawer o Gymry Cymraeg wedi symud i ardal Pontypridd o bob cwr o Gymru a daeth y rhai cerddorol yn eu plith ynghyd o dan arweiniad deheuig Wil Morus Jones. Athrawon oedd nifer o’r newydd-ddyfodiaid hynny, a bellach mae nifer o aelodau iau’r côr yn gynnyrch ysgolion Cymraeg yr ardal. Bu’r côr yn fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y cynnig cyntaf yng Nghaerfyrddin yn 1974.
1974 1974

Mae’r côr yn dal i fwynhau cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi bod yn fuddugol ar y gystadleuaeth i gorau dros 45 mewn nifer mewn pum o’r chwe blynedd diwethaf – Casnewydd 2004, Y Faenol 2005, Abertawe 2006, Sir y Fflint 2007 a’r Bala yn 2009.

2009 Bala 2009

Hefyd, mae’r côr wedi ymddangos bedair gwaith yn arwain y canu yn Stadiwm y Mileniwm, gan gynnwys canu gyda Hayley Westenra a Katherine Jenkins cyn gêm Cymru a Seland Newydd yn 2006.

Rygbi 2006
Stadiwm y Mileniwm 2006

O’r cychwyn cyntaf, roedd Godre’r Garth yn mwynhau teithiau tramor, ac mae’r côr wedi ymweld â Fflorens, Iwerddon, Barcelona, Llydaw a Prâg ac amryw o lefydd eraill dramor a ledled Cymru. Mae cysylltiad gyda chôr Liedertafel Moosburg, Bafaria’n ymestyn nôl dros 25 o flynyddoedd pan fu aelodau’r ddau gôr yn aros gyda’i gilydd am y tro cyntaf ac yn cynnal cyngherddau.

Amser Pasg 2006 oedd yr ymweliad diweddaraf, pan aeth Godre’r Garth ar daith lwyddiannus i Moosburg, gyda’n harweinydd presennol, Eilir Owen Griffiths. Daeth y criw o Moosburg nôl i aros yng Nghymru amser Pasg 2008 pan ganwyd Offeren Schubert yn G ar y cyd.

Moosburg
Moosburg, Yr Almaen, 2006

Wedi wyth mlynedd ar hugain o wasanaeth diflino, penderfynodd Wil Morus Jones roi’r gorau i arwain Côr Godre’r Garth. Cafwyd cyfnod o chwilio dyfal am olynydd teilwng iddo ac mae Eilir Owen Griffiths wedi camu i’r adwy ers 2003. Daeth Eilir at y côr gyda syniadau newydd cyffrous am repertoire estynedig ac ambell ddarn digon heriol. Mae brwdfrydedd Eilir yn heintus, ac mae’r cydweithio rhyngddo ef a Branwen Evans, cyfeilydd y côr, wedi llwyddo i gynnal y safonau uchaf sydd wedi nodweddu’r côr ers y cychwyn cyntaf.